Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5366
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 a 5 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Maes Awyr Caerdydd yn sgil adroddiadau bod cwmni awyrennau Flybe yn mynd i gael ei werthu?
Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau trên yn dilyn ymddiheuriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru am ddiffygion yn y gwasanaethau?
Dechreuodd yr eitem am 15.38
Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad am: Ymgyrch Flynyddol y Cenhedloedd Unedig - 16 diwrnod o weithredu i ymladd yn erbyn trais rhywiol.
Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am: 85 mlynedd ers Holodomor Wcrain.
Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad am: Lansio Strategaeth Golwg Cymru (fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol).
Dechreuodd yr eitem am 15.43
NDM6876 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Adam Price (Plaid Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.43
NDM6877 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6862
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Sian Gwenllian (Arfon)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.
2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018.
3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm.
4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
3 |
21 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.31
NDM6870 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6871 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig’, a gasglodd 5,125 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.49
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM6872 Rhianon Passmore (Islwyn)
Trafnidiaeth Cymru: y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.02
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2018